Dysgu gartref o Gyfrifiadura Troednoeth

Gweithgareddau hwyliog, wedi’u cynllunio gan weithwyr addysg proffesiynol, i deuluoedd eu gwneud gartref gyda’u plant.

Gweithgareddau dysgu gyda’n gilydd Cyrchoedd cryno Gemau dysgu rhyngweithiol

Beth yw meddwl yn gyfrifiadurol?

Dysgu sut mae datrys problemau yw meddwl yn gyfrifiadurol, a hynny gyda neu heb gyfrifiadur. Nid yn unig mae’r sgiliau datrys problemau hyn yn cynnal y cwricwlwm cyfrifiadura yn yr ysgol gynradd ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan mewn pynciau eraill, o fathemateg i addysg gorfforol, ac maen nhw hyd yn oed yn gallu bod yn ddefnyddiol mewn bywyd bob dydd! I helpu’ch plentyn i gymryd rhan yn ein gweithgareddau, gallwch edrych ar ein canllaw cyflym i feddwl yn gyfrifiadurol neu’i lawrlwytho.

Gweithgareddau dysgu gyda’n gilydd

Gweithgareddau hwyliog a chreadigol, wedi cael eu hadeiladu gan athrawon i’ch helpu chi i arwain eich plentyn drwy rannau sylfaenol y cwricwlwm cyfrifiadura heb fod angen amser o flaen sgrin. Mae’r rhain yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch chi i gychwyn arni gyda thaflenni gweithgareddau a deunyddiau cysylltiedig.

Pwy sy’n berchen ar hwn?

Oed:
4-6 oed
Cysyniadau:
Llythrennedd digidol
Trosolwg:
Sail y gweithgarwch helfa sborion hwn yw edrych ar berchnogaeth a chaniatâd, a’r syniad, os ydym yn dymuno defnyddio rhywbeth sy’n eiddo i rywun arall, mae’n rhaid i ni ofyn.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

Cadw pethau’n ddiogel

Oed:
4-6 oed
Cysyniadau:
Llythrennedd digidol
Trosolwg:
Yn y gweithgarwch hwn mae’r plant yn archwilio’r syniad o sut a pham y gallwn gadw pethau’n ddiogel drwy ddefnyddio cloeon a chyfrineiriau, gan edrych ar enghreifftiau ac ychwanegu rhai eu hunain.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

MYND YN WYLLT

Oed:
5-11 oed
Cysyniadau:
Algorithmau, Dadfygio, Rhaglennu
Trosolwg:
Bydd plant yn rhaglennu gwenynen byddan nhw wedi’i chreu i symud tuag at y blodau drwy greu cyfres fer o gyfarwyddiadau (algorithm).

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

PARTI PITSA

Oed:
5-11 oed
Cysyniadau:
Algorithmau, Dadfygio, Rhaglennu
Trosolwg:
Cyfrifiadura yn y gegin? Bydd plant wrth eu bodd yn gwneud eu pitsas eu hunain ar yr un pryd â dysgu i greu a dadfygio (trwsio) y rysáit.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

Neidr seibr

Oed:
4-6 oed
Cysyniadau:
Llythrennedd digidol
Trosolwg:
Gyda chymorth oedolyn, mae’r gêm hwyliog hon, sy’n seiliedig ar y clasur Nadroedd ac Ysgolion, yn rhoi cyfle i’r plentyn drafod a deall sut gall gadw’n ddiogel ar-lein tra bydd yn chwarae.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Ategol.pdf

Neidr Seibr Dis a Chownteri.pdf

Neidr Seibr bwrdd A4.pdf

PATRYMAU TAI

Oed:
5-7 oed
Cysyniadau:
Patrymau
Trosolwg:
Drwy dynnu llun eu cartref, chwilio ac adnabod yr hyn sy’n debyg i nodweddion tai eraill, bydd plant yn dechrau deall patrymau.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

TORRI’R COD

Oed:
9-11 oed
Cysyniadau:
Dadelfennu, Rhesymeg
Trosolwg:
Datrys cyfres o godau sydd wedi’u hysbrydoli gan un o’n hoff gerddi gan Roald Dahl, a dysgu sgiliau fel meddwl yn rhesymegol a dyfalbarhau.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Ategol.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

SYMUDIADAU DAWNS

Oed:
5-11 oed
Cysyniadau:
Algorithmau
Trosolwg:
Bydd y plant yn llunio dilyniant dawns ac yn creu'r cyfarwyddiadau i bartner eu dilyn.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

BLOCIAU ADEILADU

Oed:
5-11 oed
Cysyniadau:
Dadelfennu, Algorithmau
Trosolwg:
Helpu i ddatblygu dealltwriaeth eich plentyn o algorithmau a dadelfennu, drwy greu cyfarwyddiadau syml i adeiladu model yn y gweithgaredd hwyliog yma.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Ategol.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

RHESTR SIOPA

Oed:
5-11 oed
Cysyniadau:
Crynhoi, Algorithmau
Trosolwg:
Allwch chi ddim gwneud cacen heb y cynhwysion cywir. Yn y gweithgaredd yma, byddwch chi’n creu rhestr siopa sy’n helpu plant i ddeall sut mae crynhoi.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Ategol.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

CREU PATRYMAU

Oed:
5-7 oed
Cysyniadau:
Algorithmau, Dadfygio, Gwerthuso, Patrymau
Trosolwg:
Plant yn adnabod a chreu patrymau.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Ategol.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

DILYNIANT JEIF DWYLO

Oed:
7-11 oed
Cysyniadau:
Dadelfennu
Trosolwg:
Drwy ddefnyddio cyfres o symudiadau dwylo, bydd plant yn torri’r camau yn rhannau llai – yn union fel torri problemau i greu rhaglenni cyfrifiadurol fel gemau fideos.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

DILYNIANNU STORI

Oed:
4-6 oed
Cysyniadau:
Algorithmau
Trosolwg:
Drwy ddefnyddio stori neu gân gyfarwydd, bydd plant yn dysgu pa mor bwysig yw rhoi digwyddiadau yn y drefn gywir - y cam cyntaf i ddeall algorithmau.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

ROBOT DYNOL

Oed:
5-7 oed
Cysyniadau:
Algorithmau, Dadfygio
Trosolwg:
Mae trawsnewid yn robotiaid a rhaglennu symudiadau wrth galon y gweithgaredd hwyliog ac addysgol hwn.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Atego.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

SIAPIAU 2D

Oed:
7-11 oed
Cysyniadau:
Chwilio am Chwilod (Datrys Problemau), Rhesymeg, Algorithmau
Trosolwg:
Gwaith cyfrifiadura creadigol! Bydd y plant yn defnyddio siapiau 2D ac algorithmau (cyfres o gyfarwyddiadau) i dynnu lluniau, gan ddod o hyd i gamgymeriadau yn y broses a’u cywiro.

Lawrlwytho Ffeiliau

Taflenni Gwaith Ategol.pdf

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

ARNOFIO A SUDDO

Oed:
4-6 oed
Cysyniadau:
Rhesymeg, Gwerthuso, Dadelfennu
Trosolwg:
Trwy greu cwch mae plant yn profi arnofio a suddo trwy chwarae. Defnyddio geirfa newydd i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd.

Lawrlwytho Ffeiliau

Cyfarwyddiadau Gweithgaredd.pdf

Cyrchoedd cryno

Mae ein gweithgareddau byr, cyflym a hawdd eu gwneud, yn rhoi syniadau llawn hwyl i gael plant i ymarfer eu sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol.

Wedi’u rhannu rhwng y chwe chysyniad sy’n rhan o feddwl yn gyfrifiadurol, mae’n hawdd darganfod ffyrdd newydd o gyflwyno ac atgyfnerthu dysgu o’r ysgol a gartref.

Edrychwch ar ein cyrchoedd cryno ar y sgrîn

Lawrlwytho fersiwn printiadwy o’r cyrchoedd cryno

Gemau dysgu rhyngweithiol

Rydyn ni hefyd wedi creu gemau ar-lein gwych i blant eu harchwilio. Barefoot sydd wedi ysbrydioli’r gweithgareddau hwyliog hyn ac maen nhw’n cymhwyso cysyniadau meddwl yn gyfrifiadurol i hyrwyddo dysgu wrth chwarae.

Traffig Trafferthus

  • Oed: 7-9 oed
  • Cysyniadau: Dadelfeniad, Algorithmau
  • Trosolwg: Helpwch yrwyr y dref Coch a Glas i osgoi trychineb drwy ddefnyddio sgiliau dadelfeniad!

SW BAREFOOT

  • Oed: 5-11 oed
  • Cysyniadau: Alldynnu
  • Trosolwg: Helpu Ceidwad Jack i ddefnyddio pwerau alldynnu i achub ei sw, sydd mewn trafferthion!

Gêm Gwe-rwydo

  • Oed: 8-11 oed
  • Cysyniadau: Llythrennedd digidol
  • Trosolwg: Drwy archwilio pentref tanddwr bydd y plant yn dysgu sut mae adnabod arwyddion gwe-rwydo a helpu’r trigolion i gadw’n ddiogel tra bydd y gwe-rwydwyr yn ymosod arnyn nhw.

TORRI COD

  • Oed: 7-11 oed
  • Cysyniadau: Rhesymeg, Gwerthuso
  • Trosolwg: Dysgu am dorri codau yn yr Ail Ryfel Byd a defnyddio eich sgiliau gwerthuso i helpu i stopio’r goresgyniad!

DILLAD LLIWGAR

  • Oed: 5-7 oed
  • Cysyniadau: Data
  • Trosolwg: Dysgu am batrymau, rhesymeg a dadfygio drwy gyfres o weithgareddau ar thema chwaraeon.

DIDOLI’R ANIFEILIAID

  • Oed: 5-7 oed
  • Cysyniadau: Algorithmau, Rhesymeg
  • Trosolwg: Mae gafr yn y twlc! Helpwch Fferm Barefoot i gael trefn ar y llanast.

Y DIEMWNT

  • Oed: 9-11 oed
  • Cysyniadau: Algorithmau, Rhesymeg
  • Trosolwg: Mae Dr Drygioni wedi dwyn diemwnt mwyaf y byd. Defnyddiwch resymeg ac algorithmau i’w gael yn ôl.

CHWALU ASTEROIDAU

  • Oed: 7-11 oed
  • Cysyniadau: Newidynnau
  • Trosolwg: Neidiwch ar y llong ofod Chwalu Asteroidau a dysgu popeth am newidynnau

Mae’n dda rhannu!

Ydych chi’n gwybod am deulu a fydd wrth ei fodd yn dadfygio, creu a dyfalbarhau gartref? Rhannwch y dudalen hon gyda nhw i roi’r holl ysbrydiolaeth sydd ei hangen arnynt i fwrw iddi.