We use cookies on this website to enhance your experience. For more information, visit our cookie policy.
X
We haven't seen you in the last 19 minutes, so we will log you out of your Barefoot account in the next few seconds unless you click Stay logged in below.
Cyflwyno ein hadnoddau newydd Gofod Gwych
Mae'n bryd i'n hathrawon Blynyddoedd Cynnar i ymuno yn yr hwyl!
Adnoddau syml, hygyrch i’ch helpu i gyflwyno’r cwricwlwm cyfrifiadura cynradd yn wych.
Lawrlwythwch dros 80 o gynlluniau gwersi trawsgwricwlaidd ac adnoddau sy'n dod â chyfrifiadura yn fyw, gyda chyfrifiadur neu hebddo.
Ewch i’r afael â’r cwricwlwm cyfrifiadura, gyda help ein deunyddiau a’u hadnoddau hunanddysgu.
Gofynnwch am weithdy datblygiad proffesiynol parhaus i’ch ysgol heddiw a gadewch i’n gwirfoddolwyr hyfforddedig eich helpu i fynd â Barefoot i’r ystafell ddosbarth ar eich union.
Gweithgaredd byrfyfyr lle mae disgyblion yn creu cyfresi o symudiadau. Mae'r disgyblion yn torri'r gyfres o weithredoedd yn rhannau a thrwy wneud hynny maent yn dadelfennu.
Mae disgyblion yn creu cwis Mathemateg yn Scratch ac yn dysgu am ddewis sydd, yn y gweithgaredd yma, yn caniatáu addasu llif y rhaglen gan ddibynnu ar atebion y chwaraewr i gwestiynau. I ddechrau bydd y disgyblion yn defnyddio gorchymyn dewis ‘If… then…’ cyn symud ymlaen i ddefnyddio gorchymyn ‘If…then… else…’.
Mae disgyblion yn edrych ar gyfresi o orchmynion ac yn defnyddio rhesymu rhesymegol i ragfynegi beth maent yn ei wneud. Wedyn maent yn rhaglennu eu gorchmynion i weld a yw eu rhagfynegiadau’n gywir.
Mae Barefoot yma i’ch helpu i gyflwyno’r cwricwlwm cyfrifiadura mewn modd arbennig gyda gweithdai wyneb yn wyneb am ddim, canllawiau defnyddiol ar-lein a gwersi atyniadol.
Llwythwch i lawr wersi ac adnoddau trawsgwricwlaidd sy’n sbarduno meddwl yn gyfrifiadurol ym mhob pwnc bron, gan arbed amser gwerthfawr i chi.
Rhowch hwb i’ch gwybodaeth a’ch hyder yn y pwnc drwy weithdy DPP wyneb yn wyneb am ddim i’ch cyflwyno i feddwl yn gyfrifiadurol a’ch rhoi chi ar ben ffordd. Wedi meistroli’r hanfodion? Trefnwch weithdy rhaglennu dan arweiniad athro gyda Llysgennad Barefoot. Mae Barefoot yn gwneud cyfrifiadura yn hawdd i’w addysgu ac yn hwyl i’w ddysgu, boed hynny gyda chyfrifiadur neu hebddo. Edrychwch ar ein canllawiau clir ar-lein i gael rhagor o gymorth.