Beth yw meddwl yn gyfrifiadurol?
Mae meddwl yn gyfrifiadurol yn gasgliad o sgiliau meddwl y gallwn eu defnyddio wrth geisio datrys problem, fel arfer ar gyfrifiadur (ond nid bob tro). Mae meithrin sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol yn rhan o addysg cyfrifiadura plant yn yr ysgol. Ar y sgrin, fe welwch boster Meddwl yn Gyfrifiadurol gan Barefoot. Mae’r 6 chysyniad gwahanol ar y chwith a’r 5 dull o weithio ar y dde. I ddod yn ddatryswyr problemau medrus, mae angen i blant ymarfer a gloywi’r sgiliau hyn - yn yr un modd mae chwaraewr tenis yn ymarfer ergydion neu arlunydd yn ymarfer technegau brwsh newydd.
Mae hyn mor bwysig oherwydd bod y sgiliau datrys problemau hyn wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud gwyddonydd cyfrifiadurol da. Felly, pan fydd Barefoot yn mynd i ysgolion i weithio gydag athrawon, maen nhw’n gadael copïau o’r poster hwn i’w osod ar waliau ystafelloedd dosbarth ac mewn ystafelloedd cyfrifiaduron. Ond yr hyn sydd wir yn ddiddorol yw nad sgil ym maes cyfrifiadureg yn unig yw meddwl yn gyfrifiadurol. Ar ôl meithrin y sgiliau datrys problemau hyn, byddwch chi’n dod yn well datryswr problemau yn gyffredinol, boed hynny wrth adnabod rheolau ar gyfer dilyniant o rifau mewn mathemateg, pan fyddwch chi’n ceisio canfod patrymau mewn data gwyddonol, neu wrth grynhoi a dadansoddi straeon a phlotiau mewn gwaith iaith. Yn wir, gallwn ddefnyddio’r sgiliau hyn mewn ystod eang o bynciau - a dyna sy’n eu gwneud mor werthfawr.